Mae Cymdeithas Moch Daear Clwyd yn rhwymedig i hybu astudiaeth a chadwraeth moch daear ac i ddiogelu eu cynefin a'u anghenion mewn daearau presennol a rhai yn y dyfodol yn y rhan helaeth o Ogledd Cymru o Wynedd i'r Gororau.
Mochyn daear sâl yn gwella yn ein noddfa. Fe ollyngwyd hwn yn ol i'w gynefin yn ddiweddarach.
Sefydlwyd y gymdeithas yn 1983 a derbyniodd statws elusen yn 1986. Mae'r gymdeithas yn aelod gefnogol o'r Ymddiriedolaeth Brydeinig o Wirfoddolwyr Cadwraeth ac yn gysylltiedig ag Ymddiriedolaeth Moch Daear.
Mae unrhyw un sydd yn cydymdeimlo â daliadau Cymdeithas Moch Daear Clwyd yn gallu ymuno â'r gymdeithas. Mae'n gymdeithas amholiticaidd, anenwadol a di elw. Mae gwirfoddolwyr yn cael eu hannog i roi cymorth gyda chynlluniau a gorchwylion penodol. Fe wahoddir siaradwyr i annerch yn anffurfiol ar wahanol bynciau perthnasol yn y cyfarfodydd misol.
Dau aelod yn rhedeg stondin yng Nghastell Bodelwydden, Sir Ddinbych, 2001.
Fe etholir pwyllgor yn flynyddol i weinyddu'r gymdeithas, ymdrin â phroblemau a chynlluniau ac ateb yn ôl i'r aelodaeth cyffredinol – er enghraifft ar hyn o bryd mae'r gymdeithas yn gweithio gyda phedwar awdurdod lleol yn yr ardal i gynhyrchu Cynllun Gweithredu Rhywogaethau ar gyfer moch daear (Cynllun Gweithredu Rhywogaeth Mochyn Daear, Bwrdeistref Sirol Wrecsam). Mae Cydlynwyr Lleol yn ymwneud a materion arferol yn eu hardal ac yn adrodd yn ôl i'r pwyllgor yn y cyfarfodydd misol.
Yn 1991 fe brynodd y gymdeithas goedwig fechan ac yn 1992 prynwyd coedlan gyfagos er budd bywyd gwyllt. Mae gan y gymdeithas ei noddfa ei hun ble bydd moch daear sydd wedi eu hanafu neu yn sal yn cael triniaeth cyn eu rhyddhau yn ôl i'w cynefin. Mae'r gymdeithas hefyd wedi adeiladu daear artiffisial yn ymyl un a ddinistriwyd gan ddatblygwr er mwyn diogelu y gymuned o foch daear.
Fe ymosodwyd ary ddaear yma yn gyson yn y gorffennol. Fe'i cryfhawyd gyda bariau haearn a gwifrau ac mae erbyn hyn yn ffynnu.
Mae'r gymdeithas yn cynnig gwasanaeth gwybodaeth i'r cyhoedd ac yn hysbysu'r cyfryngau o faterion yn ymwneud â moch daear ac mae aelodau o'r gymdeithas yn barod i ateb cwestiynau am foch daear ar eu stondin cyhoeddusrwydd mewn ffeiriau gwledig a diwrnodau agored. Ar y stondin yma hefyd fe werthir nwyddau ac eitemau i godi arian i'r Gymdeithas.
Yr ydym mewn cysylltiad ac yn cydweithio gyda tirfeddianwyr, ffermwyr, yr heddlu, cynllunwyr, datblygwyr, awdurdodau coedwigaeth, y cyhoedd a chymdeithasau cadwriaethol eraill gan gynnig gwybodaeth a chyngor ar faterion yn ymwneud â moch daear pan fo hyn yn bosibl. Mae ardaloedd yng Ngogledd Ddwyrain Cymru yn cynnig cynefin da i foch daear ac fe gofnodir y daearau sydd yn wybyddus i'r gymdeithas gan eu monitro'n gyson gan aelodau o'r Gymdeithas.